2011 Rhif 2909 (Cy. 313)

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S 2008/3100 (Cy.274)) (“Rheoliadau 2008”), sy’n nodi’r tanwyddau y datganwyd eu bod yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III (gan gynnwys adran 20) o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”). 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio y rhestr o danwyddau awdurdodedig yn yr Atodlen i Reoliadau 2008 drwy—

(a)     ychwanegu pum tanwydd newydd (Big K Restaurant Grade Charcoal, brics glo Briteheat Plus, brics glo EDF Fuel, Homefire Fire Logs a brics glo Newflame Plus); a

(b)     diwygio manylebau un tanwydd arall (brics glo Stoveheat Premium).

Mae Rheoliad 3 yn sicrhau y bydd unrhryw danwydd (sef brics glo Stoveheat Premium) a weithgynhyrchwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig ar yr adeg pan gafodd ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig

Mae adran 20 o Ddeddf 1993 yn darparu ei bod yn dramgwydd i ollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, pan fo’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, mae’n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.  O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r buddiannau sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.  Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2011 Rhif 2909 (Cy. 313 )

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                                 2 Rhagfyr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       6 Rhagfyr 2011

Yn dod i rym                        31 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993([1]) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru([2]) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau  Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2011.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau

2. Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008([3])—

(a)     ar ôl paragraff 4, mewnosoder—

4A. Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, Yr Ariannin—

(a)   sydd wedi’i gyfansoddi o bren quebracho gwyn wedi’i byroleisio;

(b)   a weithgynhyrchwyd drwy ddefnyddio proses pyrolysis odyn ar ryw 450°C;

(c)   sy’n ddarnau golosg rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau a’r darnau hynny heb eu marcio; ac

(ch) nad yw’r sylffwr sydd ynddo’n fwy na 2 y cant o’r cyfanswm pwysau..

(b)     ar ôl paragraff 8A, mewnosoder—

8B. Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 75 i 95 y cant o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at ryw 20 y cant o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)   a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)   sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(ch) sy’n pwyso 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)   nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o’r cyfanswm pwysau..

(c)     ar ôl paragraff 18, mewnosoder—

18A. Brics glo EDF Fuel, a weithgynhyrchir gan TheGreenFactory yn  y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l’ENIT 47, Avenue D’Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o ryw 100 gram o Miscanthus heb eu prosesu (sef rhyw 45 y cant o’r cyfanswm pwysau), rhyw 95 gram o ester Copra (sef rhyw 43 y cant o’r cyfanswm pwysau), a rhyw 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (wedi’i brosesu gyda chalsiwm ocsid, sef rhyw 0.5 y cant o’r cyfanswm pwysau) o ran gweddill y pwysau;

(b)   a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;

(c)   sy’n frics glo ar siâp silindr sydd heb eu marcio, y mae eu huchder yn 120 o filimetrau a’u diamedr yn 60 o filimetrau, ac y mae twll ar siâp seren yn rhedeg yn ganolog drwy ochr hiraf y fricsen;

(ch) sy’n pwyso 220 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)   nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o’r cyfanswm pwysau..

(ch) ar ôl paragraff 21, mewnosoder—

21A. Homefire Fire Logs,  a weithgynhyrchir gan De Lange B.V., Rustenbugerweg 3, 1646 WJ Ursem, Yr Iseldiroedd—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o gŵyr hydrin (sef rhyw 50 y cant o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef rhyw 50 y cant o’r cyfanswm pwysau);

(b)   a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;

(c) sy’n foncyffion tân rhyw 280 o filimetrau eu hyd ac yn 75 o filimetrau x 75 o filimetrau gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sy’n 280 o filimetrau eu hyd;

(ch) sy’n pwyso 1.1 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a

(d)   nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o’r cyfanswm pwysau..

(d)     ar ôl paragraff 30, mewnosoder—

30A. Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, CF72 8PN—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o 10 i 15 y cant glo meddal, 10 i 15 y cant golosg petrolewm, a llwch glo caled a rhwymwr starts yw gweddill y pwysau;

(b)   a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C.

(c)   sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac y mae uchafswm eu dimensiynau yn rhyw 68 o filimetrau x 63 o filimetrau x 38 o filimetrau;

(ch) sy’n pwyso 110 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)   nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o sylffwr ar sail sych..

(dd) yn lle paragraff 36, rhodder—

36. Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—

(a)   sydd wedi’u cyfansoddi o lwch glo caled (sef rhyw 65 i 85 y cant o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 y cant o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)   a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;

(c)   sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp clustogau, y mae llinell sydd wedi’i hindentio’n rhedeg o’u hamgylch;

(ch) sy’n pwyso 30 gram y fricsen ar gyfartaledd; a

(d)   nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o’r cyfanswm pwysau.”.

Darpariaeth Arbed

3. Bydd unrhryw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig ar yr adeg pan gafodd ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig er gwaethaf i baragraff 36 o Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 gael  ei amnewid.

 

 

 

John Griffiths

 

 

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

 

2 Rhagfyr 2011

 



([1])           1993 (p.11).

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.  Mae’r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           OS 2008/3100 (Cy.274), sydd wedi’i ddiwygio gan OS 2009/3225 (Cy.279).